Sut mae Gwneud Cais

Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd hon. Os ydych chi wedi darllen y wybodaeth i ymgeiswyr ac yn dymuno gwneud cais, dilynwch y canllawiau isod.

Y Broses Ymgeisio

Cyflwynwch Curriculum Vitae (CV) cyfredol a llythyr eglurhaol, gan sicrhau eich bod yn nodi’r cyfeirnod: ema488

Mae’n bwysig bod eich CV yn cynnwys tystiolaeth bod eich cymwysterau, gwybodaeth, profiad a sgiliau yn berthnasol i’r meini prawf a nodir yn y swydd-ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn. Dylech hefyd gynnwys yn eich CV:

  • Enw llawn a chyfeiriad post;
  • Rhif ffôn cartref ac yn y gwaith, rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost (dylid nodi y byddwn yn gohebu â chi’n ysgrifenedig yn electronig yn bennaf);
  • Hanes cyflogaeth (gan esbonio unrhyw fylchau);
  • Addysg a’r dyddiadau yr enilloch chi eich cymwysterau;
  • Cyflog presennol;
  • Aelodaeth gyfredol o gymdeithasau/sefydliadau proffesiynol perthnasol, a’r dyddiadau ymaelodi.

Dylech ddefnyddio eich llythyr eglurhaol (dim mwy na thair tudalen) i esbonio pam mae’r swydd hon o ddiddordeb i chi a sut fydd eich profiad yn cyfrannu at ddatblygiad Cartrefi Conwy. Caiff eich llythyr eglurhaol ei ystyried fel rhan bwysig o’ch cais, a byddwn yn cyfeirio ato wrth asesu eich cymhelliant ar gyfer y swydd.

Gofynnwn i chi hefyd lenwi’r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal, sydd ar gael i’w lawrlwytho yma.

Mae amserlen y Drefn Asesu a Dethol i’w gweld isod. Yn eich llythyr eglurhaol, dylech roi gwybod i ni os oes unrhyw anhawster o ran y dyddiadau sydd wedi’u pennu a/neu unrhyw ddyddiadau eraill pan na fyddwch ar gael i’ch asesu. Rydym yn ceisio bod yn hyblyg, ond gall cynnull y panel dethol ar ddyddiadau gwahanol i’r rhai sy’n cael eu hysbysebu brofi’n anodd, gan fod gan bobl ymrwymiadau eraill.

Dychwelwch eich cais erbyn 30 Medi 2024 i’n hymgynghorwyr wrth gefn yn ema consultancy Ltd (ema) drwyresponsehandling1@emaconsultancy.org.uk. Byddwn yn cadw eich cais yn gwbl gyfrinachol.

Y Drefn Asesu a Dethol

Byddwn yn ystyried ac yn asesu pob cais ar sail gofynion y Manylion am yr Unigolyn, er mwyn llunio rhestr hir gychwynnol o ymgeiswyr. Os byddwch chi’n llwyddiannus yn y cam cyntaf hwn, bydd ema yn cysylltu â chi dros y ffôn/ e-bost ar ôl cwrdd â Chartrefi Conwy i bennu’r rhestr hir gychwynnol.

Amserlen

Proses Dyddiad
Dyddiad Cau: 30 Medi 2024
Cynnal Cyfweliadau (dros y we) Yr Wythnos yn Dechrau 7 Hydref 2024
Cyfweliadau ac Asesiadau Terfynol (wyneb yn wyneb) 31 Hydref 2024

Manylion Cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd neu’r drefn asesu a dethol; neu os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol â’n hymgynghorydd, mae croeso i chi gysylltu ag Anne Elliott yn ema ar 07875 762029.

Diolch am eich diddordeb yn y swydd hon.