Proffil y swydd

Cyfarwyddwr Gweithredol - Cwsmeriaid a Chymunedau

Yn atebol i: Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp

Tîm: Cwsmeriaid a Chymunedau

Yn Rheolwr Atebol ar gyfer:

  • Y Rheolwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • Cyfarwyddwr Partneriaethau – Gwerth Cymdeithasol
  • Gofynion Atgyweirio a Chynnal a Chadw Cleient - Yn sicrhau fod Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu cyflawni ar gyfer ein cwsmeriaid
  • Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Cymdogaethau

PWRPAS Y SWYDD

Meddyliwr strategol sy’n gyfrifol, drwy Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp i’r Bwrdd, am arwain a datblygu’r hyn mae ein Gwasanaethau Tai craidd yn ei gynnig ar draws Grŵp Cartrefi Conwy yn effeithiol.

Sicrhau darparu gwasanaeth sydd wir yn cael ei yrru gan y cwsmer a’r gymuned, sy’n rhagorol o ran ansawdd ac yn gost effeithiol a sy’n cyfrannu’n llawn i gyflawni Cynllun Corfforaethol, Amcanion Strategol, Gweledigaeth a Gwerthoedd y sefydliad.

Gan ganolbwyntio ar bobl, arwain a datblygu darpariaeth gwasanaeth cymunedol a thai gweithredol a strategol i gyflawni safonau uchel o ran perfformiad a gwelliant parhaus tra’n bodloni anghenion ein cwsmeriaid a sicrhau gwerth am arian.

Fel aelod o’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, cyfrannu’n frwd at y broses o wneud penderfyniadau corfforaethol, llunio strategaeth a pholisi, datblygu busnes drwy bartneriaethau a chynllunio lle i gyflawni nodau strategol a gwerthoedd y sefydliad.

Arwain drwy esiampl gan gyfathrebu a gyrru ymagwedd un tîm ar draws y Grŵp, gan fabwysiadu a chroesawu newid sefydliadol er mwyn gwella profiad ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr drwy’r defnydd gorau o’n pobl, data / technoleg gwybodaeth ac eiddo.

Cefnogi Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp mewn maes o arbenigedd yn y lle cyntaf.

FFOCWS A CHYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL

Darparu Gwasanaeth i Gwsmeriaid

  • Arwain datblygu ac adolygu’r holl strategaethau gwasanaeth i gwsmeriaid a chymunedol gan wrando ar safbwyntiau cwsmeriaid Cartrefi Conwy a defnyddio boddhad tenantiaid ac ymgysylltu i gynghori’r tîm Gweithredol a’r Bwrdd Cyfleoedd yn ehangach er mwyn gwella profiad y cwsmer.
  • Herio yn gadarnhaol er mwyn sicrhau fod ein strategaethau yn bodloni anghenion ein cwsmeriaid sy’n datblygu a bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hadlewyrchu wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Bod yn gyfrifol am reoli a datblygu’r holl agweddau o ran y gwasanaeth i gwsmeriaid a’r gymuned. Sicrhau cyfathrebu rhagorol wrth gyflawni arferion arloesol, modern ac o ansawdd uchel gan sicrhau defnydd effeithiol o setiau data i yrru arbedion effeithlonrwydd o ran busnes.
  • Arwain datblygu gweithio mewn partneriaeth ar bob lefel gan ddefnyddio meysydd gwasanaeth mewnol a sefydliadau allanol hanfodol fel Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill a darparwyr gwasanaeth i wneud y mwyaf o’r adnoddau a’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer mentrau ar y cyd ac felly sicrhau fod gwasanaethau pwrpasol yn cael eu darparu sydd wedi eu teilwra i anghenion y cwsmeriaid a’r gymuned.
  • Bod yn gyfrifol am strategaethau a gwasanaethau gan gynnwys rhenti a rheoli arian, dyraniadau tai, llais y tenant a materion tenantiaid, ymddygiad gwrthgymdeithasol, datblygiad cymdogaeth, gwasanaethau tai gwarchod, cefnogaeth gyda thenantiaeth a gwasanaethau cymunedol mewn dull integredig ar y cyd.
  • Sicrhau ffocws a arweinir gan y cleient ar ddatblygu darparu Gwasanaeth Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw Tai sy’n perfformio’n dda ac yn canolbwyntio ar y cwsmer, tra’n hyrwyddo ymrwymiad Grŵp Cartrefi Conwy i gymunedau cynaliadwy drwy wasanaeth cynnal a chadw a thai gwag ymatebol sydd yn gyson yn rhagorol.
  • Gyrru ymagwedd un tîm rhwng holl feysydd gweithredol y Busnes gyda ffocws yn benodol ar Gymdogaethau a Gwasanaethau Eiddo.
  • Sicrhau fod gennym y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â datblygiadau mewn gwasanaethau cysylltiedig a darparu cyngor priodol ac argymhellion i sicrhau fod y sefydliad yn ymateb i ddatblygiadau newydd a newidiadau yn unol â rhwymedigaethau cyfreithiol a chyd-destun cenedlaethol.
  • Gyrru newid ac arloesedd gan ddatblygu’r arfer gorau a defnyddio ystod o stordai data i wneud penderfyniadau strategol sy’n seiliedig ar wybodaeth.
  • Adnabod ac archwilio cyfleoedd sy’n briodol i’r busnes sy’n cyfrannu at dwf arloesedd, cymuned a datblygiad gwasanaeth a sicrhau y gwneir y mwyaf o’r gorbenion gan greu arbedion effeithiolrwydd busnes ar gyfer anghenion y cwsmeriaid.
  • Sicrhau fod yna ddiwylliant o ragoriaeth mewn gwasanaethau i gwsmeriaid a’r gymuned a bod y cwsmer yn ymgysylltu, cyfranogi a bod ganddo lais. Sicrhau ymgysylltiad ehangach gyda’r gymuned a bod hynny’n cael ei wreiddio yn natblygiad a darpariaeth ein holl wasanaethau.

Arwain cydweithwyr

  • Arwain trwy esiampl o ran gwerthoedd y Grŵp er mwyn ymgorffori diwylliant o berfformiad da, gwerth gorau, partneriaeth a chydweithio, gan ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel a sicrhau fod gennym ni sgiliau, profiad a chapasiti i greu dyfodol cynaliadwy.
  • Darparu arweinyddiaeth, datblygiad ac awdurdod effeithiol i’r arweinwyr a’r timau o fewn y gwasanaethau i gwsmeriaid a chymdogaeth/cymuned gan greu ymagwedd un tîm, gyda chyfathrebu cryf sy’n broffesiynol ac yn agos atoch.
  • Sicrhau y rhoddir strwythur a chyfle datblygu digonol i’r holl gydweithwyr a’u bod yn cefnogi ei gilydd i gyflawni eu llawn botensial.

Rheoli Risg a Pherfformiad

  • Datblygu a chynnal gweithdrefnau rheoli risg a systemau arfarnu ar gyfer prosiectau a gweithgareddau a reolir gan wasanaethau i gwsmeriaid a’r gymuned a lliniaru, monitro, adnabod a rhoi gwybod am feysydd sylweddol o risg i’r sefydliad.
  • Monitro ac adrodd yn rheolaidd ar ddangosyddion perfformiad allweddol a phrosesau rheoli o ran gweithgareddau gweithredol o fewn y gwasanaethau i gwsmeriaid a’r gymuned a chymryd camau priodol i gyflawni gwell darpariaeth gwasanaeth, amcanion busnes a chyfrifoldebau’n ymwneud ag iechyd, diogelwch, ansawdd a’r amgylchedd.

Rheolaeth Ariannol a Rheoli’r Gyllideb

  • Bod yn gyfrifol am baratoi, adolygu a monitro cyllidebau ariannol a lefelau awdurdod a sicrhau eu bod yn cael eu dilyn.

Rheolaeth Gorfforaethol

  • Bod yn atebol a chymryd cyfrifoldeb dros gyflawni amcanion strategol corfforaethol gyda holl aelodau’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol.
  • Bod yn aelod brwd ac effeithiol o’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, gan gydgysylltu gyda Phrif Swyddog Gweithredol y Grŵp ac aelodau eraill ar yr holl faterion yn ymwneud â’r gwasanaethau i gwsmeriaid a chymunedol sy’n effeithio ar amcanion a gweithgareddau strategol y sefydliad.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o lunio’r Cynlluniau Corfforaethol a Busnes blynyddol, gan osod a monitro amcanion adrannol fel bo’n briodol.
  • Dehongli deddfwriaeth bresennol ac arfaethedig gan fod hyn yn effeithio’r holl faterion sy’n berthnasol i’r gwasanaethau i gwsmeriaid a chymunedol ac adrodd i’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol ar yr effaith bosibl.

Y Bwrdd

  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau ar gyfer y Byrddau a’r Pwyllgorau yn ôl yr angen gan eu diweddaru am berfformiad adrannol a gweithdrefnau, deddfwriaeth newydd ac adolygiadau polisi.
  • Cefnogi deialog agored a thryloyw, gosod safonau uchel o onestrwydd, sicrhau fod gan aelodau’r Bwrdd ddigon o wybodaeth i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol ac yn ôl yr hyn sy’n ofynnol gan y rheoleiddwyr.

Cyffredinol

  • Darparu systemau adrodd priodol a strwythuredig i Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp.
  • Cychwyn a mynychu cyfarfodydd ymgynghori a thrafod gyda chydweithwyr fel bo’n briodol, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth briodol.
  • Hyrwyddo a chynrychioli’r sefydliad yn broffesiynol mewn cyfarfodydd lleol a chenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru, Arweinwyr Gwleidyddol, Awdurdodau Lleol, Addysg, Iechyd, y Cyngor Iechyd Cymuned, Y Sefydliad Tai Siartredig yng Nghymru, swyddogion Undebau Llafur ayb a gyda sefydliadau eraill sy’n ymwneud â thai, fel bo’n briodol.
  • Sicrhau fod yr holl bolisi corfforaethol yn cael ei weithredu’n llawn ac y glynir ato bob amser.
  • Darparu arweinyddiaeth gorfforaethol a throsolwg ar gyfer yr holl faterion yn ymwneud ag iechyd, diogelwch, ansawdd ac amgylcheddol, gan sicrhau fod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol ac arfer da.

Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n briodol i’r swydd hon fel bo angen, neu yn ôl yr hyn sy’n ofynnol gan Brif Swyddog Gweithredol y Grŵp.

Manylion am yr unigolyn

ADDYSG A CHYMWYSTERAU

Hanfodol:

Asesir drwy:

Gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol

Ffurflen Gais

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

Ffurflen Gais

Cymhwyster perthnasol yn ymwneud â thai neu wasanaeth i gwsmeriaid (wedi ei sicrhau neu’n gweithio tuag ato) neu ymrwymiad i sicrhau’r cymhwyster o fewn y terfynau amser a ganiateir.

Ffurflen Gais

GWYBODAETH, DEALLTWRIAETH A PHROFIAD

Profiad o weithredu ar lefel uwch reolwyr neu gyfarwyddwr mewn amgylchedd cymhleth a heriol.

Bydd yr holl ofynion

o dan Brofiad, Gwybodaeth a Dealltwriaeth yn cael eu hasesu ar gam sgrinio’r broses gyfweld.

I’r rhai hynny sy’n llwyddiannus ar y cam sgrinio, bydd asesiad pellach yn digwydd mewn cyfweliad gan gynnwys cyflwyniad.

Profiad sylweddol amlwg mewn amgylchedd gwasanaethau i gwsmeriaid a chymunedol.

Profiad sylweddol o arwain er mwyn gweithio mewn modd sy’n broffesiynol, agos atoch a dengar.

Profiad amlwg o arwain timau sy’n perfformio’n dda a chyflawni newid yn llwyddiannus.

Gwybodaeth gyfredol a dealltwriaeth o faterion sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a’r gymuned, gan gynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddio ac arfer da.

Profiad o ddatblygu strategaethau, polisïau a gweithdrefnau darparu gwasanaeth.

Profiad o arwain rheoli perfformiad, gosod a chyflawni i dargedau perfformiad allweddol.

Profiad o hybu, datblygu a gweithredu gwasanaeth newydd.

Profiad o weithio’n effeithiol gyda Byrddau neu Bwyllgorau mewn sefydliad canolig / mawr sydd ar sawl safle.

Gwybodaeth am y cyd-destun gwleidyddol a chyfreithiol y mae Cartrefi Conwy yn gweithredu ynddo.

SGILIAU IAITH

Mae’r gallu i gyfathrebu yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Saesneg yn hanfodol.

Ffurflen Gais/Cyfweliad Sgrinio

Dymunol:

Y gallu i gyfathrebu yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Asesiad/Proffil Ton

CYMWYSEDDAU: SGILIAU, GALLUOEDD, YMDDYGIADAU A RHINWEDDAU PERSONOL SY’N GYSYLLTIEDIG Â GWAITH

SGILIAU TECHNEGOL A PHROFFESIYNOL

Gweledigaeth fusnes eang gyda’r gallu i ychwanegu gwerth ar draws ystod o weithgareddau busnes

Ffurflen Gais/Cyfweliad Sgrinio

Profiad sylweddol ac amlwg mewn rôl sy’n gysylltiedig ag uwch reoli.

Ffurflen Gais/Cyfweliad Sgrinio

Sgiliau cyflawni rheoli prosiect a rhaglen yn llwyddiannus.

Ffurflen Gais/

Cyfweliad Sgrinio/

Portffolio

Yn dangos craffter ariannol cryf a gwerthoedd cymdeithasol.

Ffurflen Gais/

Cyfweliad Sgrinio/

Portffolio

Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu rhagorol gan allu cyflwyno persbectif newydd a herio’n gadarnhaol pan fo angen.

Asesiad Arweinyddiaeth/

Rheolaeth

Yn gyrru’r defnydd strategol o ddata gan sicrhau fod ein hymagwedd yn llywio mewnwelediad y gellir gweithredu arno.

Ffurflen Gais/

Cyfweliad Sgrinio

CANOLBWYNTIO AR GWSMERIAID

Hyrwyddo gwasanaethau a safonau yn effeithiol yn fewnol ac yn allanol.

Ffurflen Gais/Cyfweliad/

Cyflwyniad

Nodi a chreu’r strategaethau a’r prosesau sydd eu hangen i gyflawni a chynnal boddhad cwsmeriaid yn yr hirdymor.

Ffurflen Gais/Cyfweliad/

Cyflwyniad

Adolygu adborth busnes a gweithredol i adnabod y strategaeth a’r prosesau sydd eu hangen i fodloni a chynnal boddhad cwsmeriaid yn yr hirdymor.

Ffurflen Gais/Cyfweliad/

Cyflwyniad

Ffurfio partneriaethau strategol amrywiol i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid.

Ffurflen Gais/Cyfweliad/

Portffolio

UCHELGAIS

Arweinydd uchelgeisiol sy’n cael effaith a sydd â chymhelliant a gwytnwch.

Asesiad Arweinyddiaeth/Rheolaeth

Dangos arloesedd mewn datblygu datrysiadau sy’n gwella’r busnes.

Ffurflen Gais/Cyfweliad

Gallu barnu’n ddoeth a nodi a chydbwyso blaenoriaethau strategol/risgiau i wneud penderfyniadau gwybodus.

Ffurflen Gais/Cyfweliad

ARWEINYDDIAETH A RHEOLI

Cyfathrebu’n effeithiol ac yn broffesiynol a chyflawni’r weledigaeth, gwerthoedd a’r cyfeiriad strategol.

Ffurflen Gais/Portffolio

Arweinydd go iawn sy’n cael effaith ac sy’n ysbrydoli, yn gweithredu fel model rôl, yn ymgysylltu ac yn ysgogi cydweithwyr i gyflawni orau y gallant a chael canlyniadau rhagorol.

Asesiad Arweinyddiaeth/Rheolaeth

Yn cydweithio i ffurfio a chyflawni amcanion sefydliadol.

Asesiad Arweinyddiaeth/Rheolaeth

Yn arwain yn effeithiol ar newid a gweithredu hynny i gyflawni amcanion busnes.

Ffurflen Gais/Portffolio

YMWYBYDDIAETH FUSNES

Mabwysiadu ymagwedd strategol i ddatblygu amcanion busnes sy’n cyd-fynd â ffocws ariannol cryf.

Ffurflen Gais/Portffolio

Datblygu strategaethau sy’n galluogi ac yn cefnogi twf busnes ac amrywiaeth. 

Ffurflen Gais/Portffolio

GWEITHIO GYDA'N GILYDD

Datblygu a meithrin diwylliant un tîm drwy holl feysydd y busnes gyda chyfathrebu rhagorol, gan gynnwys timau sy’n ateb yn uniongyrchol ac eraill.

Asesiad Arweinyddiaeth/Rheolaeth

Creu cyfleoedd ac arloesedd i wella arferion gwaith traws-swyddogaethol.

Ffurflen gais/Cyfweliad sgrinio

Creu cysylltiadau strategol gyda phartneriaid cysylltiedig i gyflawni’r canlyniadau gorau.

Ffurflen gais/Cyfweliad sgrinio

GWERTHOEDD CRAIDD

Gwneud y peth iawn

Ffurflen Gais/Cyfweliad

Bod yn arloesol

Ffurflen Gais/Cyfweliad

Ymrwymo i ansawdd

Ffurflen Gais/Cyfweliad

Mae’n hanfodol bod yr holl ymgeiswyr yn gallu dangos eu gallu i fodloni ein gwerthoedd grŵp: Bod yn Arloesol, Ymrwymo i Ansawdd a Gwneud y Peth Iawn. Dylech egluro yn eich cyfweliad sut mae eich enghreifftiau yn bodloni’r gwerthoedd hyn.