Telerau ac Amodau
Cyflog:
Cyflog cystadleuol (yn cael ei feincnodi bob 2 flynedd)
Lleoliad:
Abergele, Gogledd Cymru
Gofal Iechyd Preifat:
Byddwch yn cael eich diogelu o dan ein cynllun gofal iechyd preifat gweithredol
Pensiwn:
Dewis o gynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio neu gynllun cyfrannu wedi’i ddiffinio (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu SHPS DC) neu daliad pensiwn personol
Pot hyblyg amhensiynadwy:
Pot hyblyg gyda chywerth o 10% o gyflog i’w ddefnyddio ar gyfer lwfans car
Gwyliau:
33 diwrnod o wyliau bob blwyddyn yn ogystal â gwyliau banc statudol (byddwn fel arfer yn cau dros y Nadolig, ac felly bydd arnoch angen cymryd tridiau o wyliau ar gyfer hynny)
Cynllun Arian Parod Gofal Iechyd:
Gallwch fanteisio ar amrywiaeth o fuddion gofal iechyd drwy ein cynllun, a ddarperir ar hyn o bryd gan: Gofal Iechyd y DU a Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Dysgu a Datblygu:
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cydweithwyr ac yn cynnig hyfforddiant helaeth i'ch cefnogi yn eich swydd, neu i'ch helpu i symud ymlaen i swyddi eraill, ac yn cynnig nawdd ar gyfer cymwysterau ffurfiol a phroffesiynol
Ffioedd Proffesiynol:
Byddwn yn talu eich tâl aelodaeth blynyddol ar gyfer un corff proffesiynol cydnabyddedig sy’n gysylltiedig â’ch swydd.
Polisïau sy’n Ystyriol o Deuluoedd: Mae gennym amrywiaeth o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd a fydd yn eich cynorthwyo i gael cydbwysedd rhwng y gwaith a’r cartref
Cyfnod prawf:
Bydd cyfnod prawf o chwe mis ar gyfer y swydd, lle bydd cyfnod rhybudd o fis i chi a Chartrefi Conwy os am ddiweddu’r swydd. Ar ôl cwblhau'r cyfnod prawf, bydd y cyfnod rhybudd yn chwe mis